Pecyn Traffig – Datganiad hygyrchedd

 

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn cwmpasu’r cynhyrchion ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ a ‘Strydoedd’. Gwasanaethau i’r cyhoedd yw’r rhain sy’n rhan o’r Pecyn Traffig.

  • Mae ein cynnyrch ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ yn caniatáu casglu a dadansoddi adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid ar newidiadau i orchmynion traffig
  • Mae ‘Strydoedd’ yn symleiddio data gorchmynion traffig sy’n draddodiadol gymhleth, ac yn cyflwyno’r wybodaeth hon mewn map deinamig, hawdd ei ddefnyddio o gyfyngiadau sydd ar waith ledled yr awdurdod

Mae cynhyrchion y Pecyn Traffig yn cael eu cynnal gan Yellow Line Parking Ltd (AppyWay). Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein cynhyrchion. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylai bod modd i chi wneud y canlynol:

  • chwyddo hyd at 500% heb i’r testun mwy hwnnw dorri rhyngwyneb y defnyddiwr
  • llywio pob agwedd ar y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin 

Nod cynhyrchion y Pecyn Traffig yw eu bod yn syml ac yn reddfol i’w defnyddio, i weithwyr awdurdodau lleol ac i’r cyhoedd yn gyffredinol pan fyddan nhw’n rhyngweithio â’r pyrth i’r cyhoedd, sef ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ a ‘Strydoedd’.

Egwyddorion dylunio

Cyfres o argymhellion a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 ar gyfer gwella hygyrchedd y we. Wrth ddatblygu cynhyrchion AppyWay, caiff hygyrchedd, a rhyngwynebau a phrofiadau greddfol defnyddwyr eu hystyried, sydd wedi’u hymgorffori o ddechrau’r broses hel syniadau am y cynhyrchion.  Mae carfannau dylunio a datblygu cynhyrchion AppyWay yn effro i’r ffaith bod gydag 1 o bob 5 o bobl yn y DU salwch, nam neu anabledd hirdymor a allai effeithio ar eu gallu i ryngweithio ag apiau gwe neu ar ddyfeisiau symudol. Mae ein holl gynhyrchion, boed wedi’u cynllunio ar gyfer defnyddwyr awdurdodau lleol neu ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, yn manteisio ar ein platfform technoleg arloesol a’n proses ddylunio â defnyddwyr yn ganolog iddi i sicrhau eu bod mor hawdd i’w defnyddio, mor reddfol ac mor hygyrch â phosibl.

Mae WCAG 2.1 yn seiliedig ar 4 egwyddor ddylunio, a ddewiswyd i bwysleisio’r angen i sefydliadau feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio â’u hapiau a’u cynnwys: 

  • Canfyddadwy

    – Mae angen i ddefnyddwyr allu adnabod a defnyddio eich gwasanaeth gyda’r synhwyrau sydd ar gael iddyn nhw
  • Defnyddiadwy

    – Mae modd i ddefnyddwyr ddod o hyd i’ch cynnwys a’i ddefnyddio, waeth sut maen nhw’n dewis ei gyrchu
  • Dealladwy

    – Mae modd i ddefnyddwyr ddeall eich cynnwys a sut mae’r gwasanaeth yn gweithio
  • Cadarn

    – Mae modd dehongli cynnwys mewn ffordd ddibynadwy gan amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys fersiynau o borwyr gwe sydd ar gael yn eang, a fersiynau hŷn

Gan ddefnyddio’r strwythur hwn, mae’n bosibl rhannu enghreifftiau ac esboniadau o sut mae 2 borth gwe AppyWay ar gyfer y cyhoedd, sef ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ a ‘Strydoedd’ yn glynu wrth WCAG 2.1.

Canfyddadwy 

Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer sicrhau bod yr wybodaeth werthfawr am gyfyngiadau sydd wedi’i chynnwys yn ein pyrth sy’n seiliedig ar fapiau yn glir, yn hawdd ei deall ac yn hawdd ei gwahaniaethu yn cynnwys defnyddio lliwiau a siapiau.

Yn ystod y gwaith datblygu a phrofi’n helaeth â defnyddwyr, cyflawnwyd y cyfuniad gorau posibl o arddull map sylfaenol a chyfres o liwiau. Roedd darparu’r gymhareb cyferbyniad a’r cyfuniad cywir o liwiau fel bod modd i ddefnyddwyr wahaniaethu’n glir rhwng cyfyngiadau, yn enwedig lle mae llawer o gyfyngiadau wedi’u lleoli ar draws ardal brysur o fap, yn amcan pwysig i’r carfannau dylunio a datblygu.

Yn fwy penodol yn y porth ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’, yn ogystal â’r lliwiau a gaiff eu defnyddio, fe wnaethon ni wella’r profiad hygyrchedd i ddefnyddwyr ymhellach trwy gynnwys labeli â llythrennau ar gyfer pob math o gyfyngiad a fyddai’n cael ei ychwanegu, ei addasu neu ei ddileu yn rhan o’r ymgynghoriad arfaethedig. 

Mae enghreifftiau perthnasol eraill o gydymffurfio â WCAG 2.1 o dan yr egwyddor ddylunio hon yn cynnwys:

  • Defnyddio testunau amgen yn helaeth yn y 2 borth
  • Strwythur rhesymegol y cynnwys drwy gydol profiad y defnyddiwr i gynorthwyo darllenwyr sgrin
  • Mae dyluniad cwbl ymatebol ar gyfer y 2 borth gwe yn sicrhau: 
    – Caiff chwyddo 500% ei gefnogi ar gyfer pob nodwedd
    – Caiff pob dyfais defnyddiwr a gaiff ei defnyddio i gyrchu’r pyrth ei chefnogi (symudol, llechen, bwrdd gwaith)
    – Mae modd cynyddu maint y ffont yn hawdd

Defnyddiadwy

Roedd datblygiad ein pyrth cyhoeddus yn cynnwys eu profi’n helaeth â defnyddwyr i sicrhau bod profiad y defnyddiwr yn reddfol, gan ei gwneud hi’n hawdd symud trwy’r mapiau a dod â’r wybodaeth fanwl i’r amlwg mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr.

Mae’r pyrth yn defnyddio penawdau a labeli ystyrlon gyda labeli hygyrch cyfatebol i sicrhau bod profiadau di-dor i bob math o ddefnyddwyr. Gall defnyddwyr ddefnyddio gorchmynion y bysellfwrdd i lywio trwy’r cynnwys, sydd wedi’i strwythuro’n dda.

Ar gyfer cynnwys y mae modd ei lawrlwytho, mae rhyngwyneb y defnyddiwr a’r labelu wedi’u hoptimeiddio i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i’r dogfennau perthnasol sy’n gysylltiedig â gorchmynion a wnaed neu a gynigiwyd yn hawdd, a’u lawrlwytho.

Dealladwy

Daeth proses ddylunio AppyWay, â defnyddwyr yn ganolog iddi, ac a gynhaliwyd ar y cyd â nifer o awdurdodau lleol, â nifer o gyfleoedd i wneud data a phrosesau gorchmynion traffig yn haws i’r cyhoedd eu deall. Ceir enwau ac iaith ddeddfwriaethol a all wneud y pwnc yn anoddach i aelodau cyffredin o’r cyhoedd ymgysylltu ag ef. Mae gydag AppyWay awydd parhaus i wella dealltwriaeth o brosesau Gorchmynion Rheoleiddio Traffig trwy ein pyrth gwe greddfol. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â’r egwyddor ddylunio hon o WCAG 2.1 i sicrhau y gall pobl ddeall y cynnwys sy’n rhan o’n hapiau.

Caiff iaith glir ei defnyddio mor helaeth â phosibl drwyddo draw, gyda brawddegau byr a therminoleg sy’n hawdd ei deall.

Mae sicrhau bod gyda nodweddion olwg gyson ac yn ymddwyn mewn ffyrdd y mae modd eu rhagweld yn gymhwysedd craidd o dan yr egwyddor ddylunio hon. Gyda rhyngwyneb yn seiliedig ar fap, roedd ein proses ddylunio yn blaenoriaethu sicrhau bod gyda nodweddion olwg gyson ac yn ymddwyn mewn ffyrdd y mae modd eu rhagweld yn y cynhyrchion ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ a ‘Strydoedd’.

Efallai mai’r ffordd orau o atgyfnerthu hyn yw yn ein hamcan dylunio i symleiddio nifer y mathau unigryw o gyfyngiadau y mae modd eu gweld yn y pyrth. Roedd hyn wedi lleihau nifer y lliwiau y byddai angen eu defnyddio ar y mapiau, gan wneud cydymffurfio â safonau hygyrchedd yn haws. Mae hyn yn gwella cysondeb a’r profiad cyffredinol i ddefnyddwyr sy’n llywio’r mapiau.

O ran cynnig datrysiadau eraill mewn perthynas â Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, mae’n bosibl weithiau i awdurdodau lleol deilwra opsiynau lliwiau a phatrymau ar gyfer cyfyngiadau penodol wrth osod eu pyrth ar gyfer y cyhoedd. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg cysondeb yn y ffordd y mae cyfyngiadau’n cael eu dangos ar fapiau rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Rydyn ni o’r farn bod ein carfannau dylunio a datblygu, sy’n gyfarwydd iawn â safonau WCAG, yn y lle gorau i ymgymryd â’r gwaith mireinio cyfluniad lliw hygyrch, yn hytrach na gadael y dewisiadau hyn i garfannau awdurdodau lleol unigol. 

Mantais y dull dylunio hwn yw bod data gorchmynion traffig a gaiff ei weld drwy borth ‘Strydoedd’ Appyway i’r cyhoedd yn gyson ar draws yr holl awdurdodau lleol sy’n defnyddio ein datrysiad, gan ei gwneud hi’n haws i’r cyhoedd ddeall cyfyngiadau yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw’n rheolaidd.

Cadarn 

Mae modd i bob fersiwn o’r prif borwyr gwe ddefnyddio ein pyrth cyhoeddus ac mae gydag ein carfan peirianneg gynllun lefel uchel sy’n gallu rhagweld ac addasu i unrhyw ddatblygiadau o ran porwyr a datblygiadau ym maes technolegau cynorthwyol.

Mae’r 2 borth wedi’u codio mewn ffordd sy’n cynorthwyo technolegau cynorthwyol sy’n cefnogi defnyddwyr ag anableddau.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Oherwydd natur y cynnyrch, nid yw rhai rhannau o’r Pecyn Traffig yn cydymffurfio’n llawn â’r WCAG:

Gwrthgyferbyniad lliwiau 

Oherwydd y maint enfawr o ddata a gaiff ei ddangos yn ein cynhyrchion, mae angen cyfres o liwiau helaeth arnon ni i wahaniaethu rhwng gwahanol eitemau ar y map, ac ni chaiff pob un ohonyn nhw eu hystyried yn hygyrch. Serch hynny, gall defnyddwyr ddeall mathau o gyfyngiadau drwy hofran dros (yn ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’) neu glicio ar y rhain (yn ‘Strydoedd’) i ddatgelu gwybodaeth ar ffurf testun ynghylch y cyfyngiad hwnnw. Yn ‘Ymgyngoriadau Cyhoeddus’ mae gyda phob cyfyngiad label llythyren hefyd sy’n cyfateb i ddisgrifiad testun yn yr allwedd. Mae ystyriaethau allweddol ar gyfer sicrhau bod yr wybodaeth werthfawr am gyfyngiadau sydd wedi’i chynnwys yn ein pyrth sy’n seiliedig ar fapiau yn glir, yn hawdd ei deall ac yn hawdd ei gwahaniaethu yn cynnwys defnyddio lliwiau a siapiau.

Yn rhan o’r gwaith datblygu a phrofi’n helaeth â defnyddwyr, rydyn ni’n ystyried amlder y math o gyfyngiad, cyfyngiadau tebyg sy’n gyffredin a chonfensiynau lliw sy’n bodoli eisoes (megis glas ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a melyn ar gyfer llinellau melyn). 

Fe aethon ni ati hefyd i sicrhau bod y cymarebau cyferbyniad a’r cyfuniad o liwiau fel y maen nhw fel bod modd i ddefnyddwyr wahaniaethu’n glir rhwng cyfyngiadau, hyd yn oed lle mae llawer o gyfyngiadau wedi’u lleoli ar draws ardal brysur o fap. 

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol (megis PDF hygyrch, print bras, ac ati), anfonwch e-bost at yr awdurdod lleol cysylltiedig a byddan nhw’n eich cynorthwyo.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan yma

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon, anfonwch e-bost at support@appyway.com.

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd does dim modd i ni drwsio problemau strwythuro ynghylch tirnodau a hierarchaeth teitlau ar ôl lefel 1 (lefelau 2 i 5). Byddai hyn yn gofyn am ail-ddylunio gosodiad pob tudalen yn sylweddol. Pwrpas hyn yw arddangos mapiau rhyngweithiol syml a hawdd eu defnyddio yn y ffordd orau. 

Offer rhyngweithiol a thrafodion

Gan fod ein cynnyrch yn bennaf yn offer rhyngweithiol sy’n seiliedig ar fapiau, er bod modd i chi lywio, chwilio a chwyddo yn y map gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, does dim modd dewis y cilfannau unigol er mwyn cael rhagor o wybodaeth heb ddefnyddio llygoden. 

Fformat PDF a dogfennau eraill

Mae’r holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â gorchymyn traffig penodol ar gael mewn fformat PDF hygyrch, sy’n gydnaws â’r rhan fwyaf o ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall. Serch hynny, mae mapiau yn y dogfennau hyn wedi’u cynnwys fel delwedd ac nid oes disgrifiad testun ynghlwm â nhw. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol os oes angen hyn arnoch mewn fformat arall neu ddisgrifiad ar ffurf testun.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd?

Rydyn ni’n parhau i weithio tuag at safonau WCAG 2.1 lle bo modd, yn ogystal â derbyn adborth gan gwsmeriaid ein hawdurdodau lleol i fynd i’r afael ag unrhyw anghenion a allai fod gyda nhw er mwyn gwella hygyrchedd. Ar ben hynny, rydyn ni’n profi’r holl waith sy’n ymwneud â datblygu cynhyrchion yn barhaus gydag ystod eang o ddefnyddwyr, yn ogystal â derbyn adborth parhaus gan ein cwsmeriaid. 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd yma

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 27ain Awst 2027 Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 27ain Awst 2027. Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 27ain Awst 2027. Cafodd y profion eu cynnal gan AppyWay ei hun.