Polisi Cwcis
Cafodd y Polisi Cwcis hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 27ain Awst 2027.
Mae Yellow Line Parking Limited (“AppyWay”, neu “ni”) yn defnyddio cwcis ar wefan https://appyway.com a’i his-barthau a’i apiau symudol (gyda’i gilydd, y “Wefan”). Mae ein Polisi Cwcis yn egluro beth yw cwcis, sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar y Wefan a sut rydych chi’n diffodd cwcis ar y Wefan. Rydyn ni hefyd yn dweud wrthych chi am rôl darparwyr trydydd parti mewn perthynas â chwcis ar y Wefan.
I weld rhestr lawn o gwcis a gaiff eu defnyddio ar y Wefan, sgroliwch i ddiwedd y Polisi Cwcis hwn lle i ddarllen ein Siart Cwcis.
Defnyddio Cwcis gan AppyWay
- Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich dyfais pan fyddwch chi’n cyrchu’r rhan fwyaf o wefannau ar y rhyngrwyd neu’n agor rhai negeseuon e-bost. Ymhlith pethau eraill, mae cwcis yn caniatáu i wefan adnabod eich dyfais a chofio a ydych chi wedi bod i’r wefan o’r blaen. Rydyn ni’n defnyddio’r term “cwci” i gyfeirio at gwcis a thechnolegau sy’n cyflawni swyddogaeth debyg i gwcis (e.e. tag, picsel, ffagl gwe, ac ati). Gall y wefan wreiddiol ddarllen cwcis ar bob ymweliad dilynol a chan unrhyw wefan arall sy’n adnabod y cwci. Gall cwcis gael eu gosod gennyn ni (“cwcis parti cyntaf”) neu gan barth trydydd parti (“cwcis trydydd parti”)
- Rydyn ni’n defnyddio cwcis i helpu’r Wefan i weithio’n iawn ac i ddarparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau perthnasol i ymwelwyr â’r Wefan. Mae’r Wefan yn defnyddio cwcis i wneud y Wefan yn haws i’w defnyddio, i gefnogi’r ddarpariaeth o wybodaeth a swyddogaethau i chi, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i ni am sut mae’r Wefan yn cael ei defnyddio fel y gallwn ni sicrhau ei bod mor gyfredol, berthnasol a rhydd o wallau ag y gallai fod. Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis i gofio gosodiadau, olrhain gweithgareddau a dadansoddi tueddiadau
- Caiff yr holl gwcis a gaiff eu defnyddio gennyn ni eu defnyddio yn unol â Chyfraith Cwcis gyfredol y DU a’r UE (sy’n golygu Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) (Diwygio) 2011)
Beth alla i ei wneud am gwcis ar ein Gwefan?
Gallwch chi ddewis galluogi neu ddiffodd cwcis yn eich porwr. Mae’r rhan fwyaf o borwyr hefyd yn eich galluogi chi i ddewis a ydych chi am ddifodd pob cwci neu gwcis trydydd parti yn unig. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis ond mae modd newid hyn. Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y ddewislen gymorth yn eich porwr neu ewch i http://www.youronlinechoices.eu/.
Mae modd i chi ddewis dileu cwcis unrhyw bryd, fodd bynnag fe allech chi golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gyrchu’r Wefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, osodiadau personol.
Cwcis parti cyntaf
Efallai y byddwn ni’n gosod ac yn cyrchu rhai cwcis parti cyntaf. Cwcis parti cyntaf yw’r rhai sy’n cael eu gosod yn uniongyrchol gennyn ni ac sy’n cael eu defnyddio gennyn ni yn unig. Efallai y byddwn ni’n defnyddio cwcis i wella eich profiad ac i wella ein hamrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau.
Cwcis trydydd parti
Efallai y byddwch chi hefyd yn derbyn cwcis trydydd parti penodol ar eich dyfais. Cwcis trydydd parti yw’r rhai sy’n cael eu gosod gan wefannau a/neu bartïon heblaw ni at ddibenion olrhain llwyddiant eu ap neu addasu’r ap i chi. Ni allwn gyrchu’r cwcis hyn, ac ni all trydydd parti gael mynediad at y data yn ein cwcis chwaith. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n rhannu ein Gwefan gan ddefnyddio botwm rhannu i’r cyfryngau cymdeithasol ar ein Gwefan, bydd y rhwydwaith cymdeithasol rydych chi’n rhannu arno yn cofnodi eich bod chi wedi gwneud hyn.
Rheolwr Data
Ar gyfer ymholiadau, cwynion a cheisiadau’n ymwneud â dileu, e-bostiwch ni ar support@appyway.com.
Manylion Cwcis
Cwcis Angenrheidiol neu Hanfodol: Mae’r cwcis hyn yn helpu i wneud y Wefan yn ddefnyddiadwy trwy alluogi swyddogaethau sylfaenol megis cofio eich dewisiadau ynghylch a ydych chi am ganiatáu i ni storio cwcis, a chofio dewisiadau eraill rydych chi wedi’u nodi wrth i chi lywio’r Wefan. Ni all y Wefan weithredu’n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis Cofio Dewis: Mae’r cwcis hyn yn galluogi’r Wefan i gofio gwybodaeth sy’n newid y ffordd y mae’r Wefan yn ymddwyn neu’n edrych, megis eich iaith ddewisol neu’r rhanbarth rydych chi ynddo.
Cwcis Ystadegau neu Ddadansoddeg: Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’r Wefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth yn ddienw. Rydyn ni’n defnyddio’r cwcis hyn i gasglu a storio gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr â’r wefan (e.e. storio gwybodaeth am ba dudalennau y mae unigolion yn ymweld â nhw, pa mor hir mae ymwelwyr ar y Wefan, ac ar beth mae defnyddwyr yn clicio), ac i fonitro a darparu ystadegau ar sut mae’r Wefan yn cael ei defnyddio (e.e. adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr, gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas y Wefan).
Cwcis Marchnata a Rhannu Cymdeithasol: Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i olrhain ymwelwyr ar draws gwefannau. Y bwriad yw arddangos hysbysebion sy’n berthnasol ac yn ddeniadol i’r defnyddiwr unigol ac felly’n fwy gwerthfawr i gyhoeddwyr a hysbysebwyr trydydd parti.
Cwcis rydyn ni’n eu defnyddio:
1. Google Inc. NID
-
- _gid
- _gcl_au
- _ga
- _ga
- _gat_337300481
Gwasanaeth dadansoddeg gwe a gaiff ei ddarparu gan Google Inc. yw Google Analytics. Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i ganiatáu i ni werthuso ac adrodd ar ddefnydd ein gwefan. Mae defnyddio Google Analytics yn ein helpu i ddeall ymddygiad ein hymwelwyr ac yn caniatáu i ni wneud gwelliannau i brofiad ein defnyddwyr. Gallwch chi optio allan o Google Analytics ar draws pob gwasanaeth sy’n ei ddefnyddio trwy eich porwr yma.
2. Mixpanel
- Mixpanel mp_
Gwasanaeth dadansoddeg gwe yw Mixpanel. Fel Google Analytics, rydyn ni’n defnyddio Mixpanel i werthuso ac adrodd ar gynhyrchion y Pecyn Traffig. Mae defnyddio Mixpanel yn ein helpu i ddeall ymddygiad ein hymwelwyr ac yn caniatáu i ni wneud gwelliannau i brofiad ein defnyddwyr. Gallwch chi optio allan o Mixpanel ym mhob gwasanaeth sy’n ei ddefnyddio trwy eich porwr yma.
3. WordPress
- cookielawinfo-checkbox-necessary
Mae’r cwci hwn yn galluogi’r Wefan i olrhain a yw defnyddwyr wedi derbyn ein datganiad Polisi Cwcis.
4. Lucky Orange (ar gyfer y Pecyn Traffig yn unig)
- _global_lucky_opt_out
- _lo_np_<Poll ID>
- _lo_bn
- _lo_cid
- _lo_uid
- _lo_rid
- _lo_v
- _lotl
- _lotr
Gwasanaeth dadansoddeg a recordio sesiynau yw Lucky Orange. Caiff ei ddefnyddio’n rhan o’r Pecyn Traffig i helpu i wella defnyddioldeb a phrofiad y cwsmer. Os caiff mater â chod ei ganfod, caiff yr offeryn recordio sesiwn ei ddefnyddio i adolygu’r camau a gymerwyd i greu’r mater.
Gallwch chi optio allan o Lucky Orange yn y ddewislen gosodiadau yn y Pecyn Traffig (cornel dde uchaf).
5. Cwcis Eraill
Yn ogystal â’r cwcis uchod, gall y gwefannau canlynol greu eu cwcis eu hunain wrth bori ein gwefan:
X (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
Google (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
Facebook (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
LinkedIn (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
Instagram (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
TikTok (Polisi Preifatrwydd|Gwybodaeth am Hysbysebion|Dewisiadau Hysbysebion)
Er mwyn olrhain trosiad ein hymgyrchoedd hysbysebu rydyn ni’n defnyddio cwcis a gaiff eu gosod gan Meta, TikTok, Twitter a LinkedIn. Mae’n bosibl caiff ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan ei ddefnyddio hefyd i feithrin cynulleidfaoedd ar gyfer ein hymgyrchoedd hysbysebu Meta, TikTok, Twitter a LinkedIn. Mae’r dolenni uchod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hysbysebu sy’n seiliedig ar fuddiannau Meta, TikTok, Twitter, a LinkedIn a sut i optio allan neu newid dewisiadau defnyddwyr.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio Google Ads a Microsoft Ads at ddibenion ail-farchnata er mwyn annog defnyddwyr i ddychwelyd i’r wefan. I wneud hyn, rydyn ni’n defnyddio tagiau ail-farchnata hysbysebion sy’n gosod gwybodaeth o fewn cwci Google Ads a Microsoft Ads.