Polisi Preifatrwydd
Cafodd y Polisi Preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 27ain Awst 2027.
Dyma Bolisi Preifatrwydd AppyWay (y “Polisi Preifatrwydd” neu’r “Polisi”). Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn manylu ar sut rydyn ni’n casglu, storio, diogelu a rhannu eich gwybodaeth, a gyda phwy rydyn ni’n ei rhannu. Sicrhewch eich bod yn darllen y Polisi Preifatrwydd hwn ar y cyd â’n Telerau ac Amodau ar gyfer AppyParking+, a’n Telerau ac Amodau ar gyfer AppyParking.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn llywodraethu apiau parcio symudol AppyParking ac AppyParking+ ar gyfer iOS ac Android (yr “Apiau”), gwefannau AppyParking, AppyParking+ ac AppyWay, unrhyw ficrowefannau sy’n eiddo i AppyWay, a’n cynhyrchion a’n gwasanaethau digidol (megis unrhyw gystadlaethau neu arolygon y byddwn ni’n eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd), (y cyfeirir atyn nhw gyda’i gilydd yn y Polisi Preifatrwydd hwn fel ein “Gwefannau”).
Tra byddwch chi’n defnyddio’r Apiau a/neu’r Gwefannau, byddwn ni’n casglu rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi, ac efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth weithiau hefyd.
Mae modd cyrchu’r Ap a’r Gwefannau’n fyd-eang, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon i, a’i defnyddio yn, yr AEE, UDA a’r DU waeth pa wlad rydych chi’n byw ynddi. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn hefyd yn esbonio sut rydyn ni’n diogelu eich data personol pan fyddwn ni’n ei drosglwyddo dramor.
Mae’r Apiau a’r Gwefannau’n cael eu cynnal gan Yellow Line Parking Limited sy’n masnachu fel AppyWay (“AppyWay”, neu “ni”). AppyWay yw rheolwr yr wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu a’i phrosesu drwy’r Apiau a’r Gwefannau. Mae gydag AppyWay Swyddog Diogelu Data dynodedig, ac mae modd cysylltu â nhw drwy e-bostio support@appyway.com neu drwy’r post ar y cyfeiriad canlynol: At sylw: Swyddog Diogelu Data AppyWay, Cannon Place, 78 Cannon Street, EC4N 6AF, Llundain.
Drwy barhau i ddefnyddio ein Ap a/neu ein Gwefannau rydych chi’n cydnabod ac yn cydsynio i’r Polisi Preifatrwydd hwn.
Casglu gwybodaeth
Gwybodaeth gofrestru
Pan fyddwch chi’n lawrlwytho ap AppyParking, neu’n dewis defnyddio ap AppyParking+ a/neu wefan AppyParking+ i dalu am barcio, bydd angen i chi greu cyfrif (“Cyfrif”), ac efallai y byddwn ni’n casglu gwybodaeth benodol (“Gwybodaeth y Cyfrif”) amdanoch chi, megis:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif cofrestru’r cerbyd
- enw’r busnes neu’r sefydliad rydych chi’n berchen arno neu’n ei gynrychioli a’ch rôl yn y busnes – os yw’n berthnasol
- cyfeiriad y busnes neu’r sefydliad rydych chi’n berchen arno neu’n ei gynrychioli – os yw’n berthnasol
Ar ôl i chi gofrestru, bydd modd i chi adolygu a newid yr wybodaeth hon ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i’r Ap neu’r wefan berthnasol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod manylion eich Cyfrif yn cael eu cadw’n gyfredol.
Gwybodaeth talu
Lle mae’r gwasanaeth ar gael, mae modd i chi ddefnyddio’r Apiau a/neu’r Gwefannau i dalu am barcio. Os byddwch chi’n dewis defnyddio’r gwasanaeth hwn, byddwn ni’n prosesu eich gwybodaeth talu ac yn ei chadw’n ddiogel er mwyn atal twyll ac at ddibenion archwilio/treth. Er mwyn prosesu eich taliad di-arian am le parcio, mae’r Apiau’n defnyddio platfform talu trydydd parti diogel. Bydd y platfform talu yn defnyddio manylion eich cerdyn i wneud taliad i ddarparwr maes parcio neu Gyngor yn dibynnu ar y math o barcio rydych chi wedi’i ddewis. Mae taliadau di-arian am barcio yn cydymffurfio’n llawn â Diwydiant y Cardiau Talu (PCI).
Rheolir tanysgrifiadau i AppyParking+ Premium gan Google ar Android ac Apple ar iOS.
Gwybodaeth canfod lleoliad
Pan fyddwch chi’n defnyddio’r Apiau a/neu’r Gwefannau, byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i gyrchu’ch lleoliad. Mae modd i chi newid hyn yng ngosodiadau eich dyfais/porwr. Pan fyddwch chi’n defnyddio’ch ffôn symudol a/neu gyfrifiadur, byddwn ni’n casglu gwybodaeth am leoliad eich hydred a’ch lledred ac efallai y byddwn ni’n cadw cyfesurynnau eich dyfais i gynnig rhai nodweddion i chi. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i nodi eich lleoliad personol ac rydyn ni’n ei defnyddio i gynnig ein gwasanaeth o ddod o hyd i barcio, a lle bo modd, talu amdano.
Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i AppyWay gyrchu’ch lleoliad, ond rydych chi eisiau diffodd hyn, gallwch chi wneud hynny gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- Ap iOS: Settings > Privacy > Location services > AppyParking(+)
- Ap Android: Settings > Location > AppyParking(+) > Permissions > Location.
- Gwefan: Newid gosodiadau cyrchu’ch lleoliad eich porwr.
Gwybodaeth am eich dyfais
Efallai y byddwn ni’n casglu gwybodaeth am eich dyfais pan fyddwch chi’n defnyddio’r Apiau a/neu’r Gwefannau, gan gynnwys y dynodwr dyfais unigryw, model y ddyfais, y system weithredu a’r cyfeiriad MAC, at nifer o ddibenion, fel y nodir yn y Polisi hwn.
Cysylltu â’n Cymorth i Gwsmeriaid
Os byddwch chi’n cysylltu ag AppyWay drwy ein dolenni “Anfon adborth”, ‘Rhowch wybod i ni” a “Cysylltwch â ni” neu drwy e-bost ar yr Apiau neu’r Gwefannau, bydd eich cyfeiriad e-bost yn dod i law ac efallai y byddwn ni’n olrhain eich cyfeiriad IP, yn ogystal â’r wybodaeth rydych chi’n ei hanfon aton ni i helpu i ddatrys eich ymholiad. Caiff cyfathrebiadau a anfonir at ein carfan cymorth i gwsmeriaid eu gwneud yn anhysbys ar ôl 2 flynedd o ddim cyswllt, neu cyn pen 30 diwrnod i AppyWay dderbyn cais i’w dileu.
Cwcis
Ffeil fach yw cwci y mae modd ei gosod ar eich dyfais neu borwr sy’n ein galluogi i’ch adnabod a’ch cofio. Pan fyddwch chi’n ymweld â’n Apiau neu’n Gwefannau, efallai y byddwn ni’n casglu data personol gennych chi’n awtomatig trwy ddefnyddio cwcis neu dechnolegau tebyg.
Gweithgareddau marchnata uniongyrchol electronig
Lle mae gyda ni’ch caniatâd am ddewis penodol efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi drwy e-bost neu ddulliau electronig eraill at ddiben rhannu gwybodaeth farchnata â chi (gan gynnwys ein cylchlythyrau) sy’n ymwneud â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau. Gallwch chi ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau o’r fath ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod unrhyw e-bost, neu drwy anfon e-bost aton ni yn support@appyway.com.
Efallai y byddwn ni’n defnyddio’r data personol a gaiff ei gasglu trwy gwcis ar ein Apiau neu’n Gwefannau i ddangos hysbysebion perthnasol i chi ar blatfformau trydydd parti megis Facebook, LinkedIn, Instagram ac X ac yn ystyried bod gyda ni fuddiant dilys wrth wneud hynny. Am ragor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut y mae modd eu diffodd, gweler ein Polisi Cwcis.
Ni chaiff gwybodaeth gyswllt a gaiff ei chasglu trwy ein cynhyrchion Ymgyngoriadau Cyhoeddus neu Strydoedd yn rhan o’r Pecyn Traffig ei defnyddio at ddibenion marchnata AppyWay. Yr awdurdod lleol sy’n defnyddio’r Pecyn Traffig sy’n berchen ar y data hwn ac felly’n gyfrifol amdano, nid AppyWay. At hynny, mae hyn wedi’i gynnwys ym mholisi preifatrwydd yr awdurdod lleol cyfatebol.
Dolenni i wefannau eraill
Efallai y byddwn ni’n darparu dolenni i wefannau eraill. Nid oes gyda ni unrhyw reolaeth dros y gwefannau eraill hyn ac nid ydyn ni mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am eu cynnwys. Nid yw’r polisi hwn yn ymestyn i’ch defnydd o wefannau eraill ac fe’ch cynghorir i ddarllen polisi preifatrwydd neu ddatganiad gwefannau eraill cyn eu defnyddio.
Gwybodaeth ychwanegol
Pan fyddwch chi’n defnyddio’r gwefannau a’r apiau symudol i gyrchu ein gwasanaethau, efallai y byddwn ni’n defnyddio technoleg megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr hyn a ddarperir gan Google (Google Analytics a Firebase), Lucky Orange, Braze a Mixpanel i gasglu gwybodaeth am eich ymweliad â’n gwefan. Yn ei hanfod, mae Google Analytics, Lucky Orange, Braze a Mixpanel yn ein galluogi i ddadansoddi sut rydych chi ac eraill yn rhyngweithio â’n Apiau a’n Gwefannau. Gall yr wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu gynnwys:
- eich cyfeiriad IP;
- manylion adnabod eich dyfais;
- y math o borwr rydych chi’n ei ddefnyddio (e.e. p’un a ydych chi’n defnyddio’r porwr Chrome neu Safari);
- nifer y sesiynau fesul porwr ar bob dyfais;
- y math o ddyfais (e.e. Samsung) a’r system weithredu (e.e. Android) rydych chi’n ei defnyddio;
- gwybodaeth am yr atgyfeirydd;
- parth amser;
- dewisiadau’r defnyddiwr;
- pa dudalennau y gwnaethoch chi ymweld â nhw ar y wefan;
- gwybodaeth ddadansoddeg mewn perthynas â’ch rhyngweithio ag unrhyw gylchlythyr neu e-bost y byddwn ni’n ei anfon atoch (e.e. cyfraddau clicio);
- patrymau ymddygiad ymwelwyr wrth ymweld â’r gwefannau a’r apiau symudol, trwy fapiau clicio, gweithredoedd, mapiau sgrolio a recordiadau
Defnyddio’ch gwybodaeth
Er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi, efallai y byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth eich cyfrif a gwybodaeth arall i:
- Cynnig gwasanaethau a nodweddion i chi;
- Cysylltu â chi gyda gwybodaeth am yr Apiau neu’r Gwefannau h.y. diweddariadau;
- Personoli’r Apiau neu’r Gwefannau a’r cynnwys rydyn ni’n eu darparu i chi;
- Sicrhau bod cynnwys o’n Apiau a’n Gwefannau’n cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch dyfais;
- Gwella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn y tymor hwy drwy ddeall sut rydych chi a defnyddwyr eraill yn rhyngweithio â’n gwasanaethau;
- Cyflwyno argymhellion i chi ynghylch y swyddogaethau hynny yn yr Apiau neu’r Gwefannau sydd fwyaf perthnasol i chi, yn seiliedig ar eich defnydd o’n platfform;
- Rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau pwysig i’n gwasanaethau;
- Sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwybodaeth berthnasol i’r rheiny sy’n derbyn ein cylchlythyrau;
- Ymchwilio i achos sylfaenol problemau technegol er mwyn darparu’r ateb gorau
Sail Gyfreithiol
O dan gyfreithiau diogelu data’r UE a’r DU, mae’n ofynnol i ni ddweud wrthych beth yw ein sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data ac rydyn ni wedi nodi hyn yn y tabl isod. Lle mae caniatâd yw’r sail gyfreithiol, mae modd i chi dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Lle mae buddiant dilys yw’r sail gyfreithiol, mae gyda chi hawl i wrthwynebu ein defnydd o’ch data. Rydyn i’n egluro yn yr adrannau perthnasol yn y Polisi hwn sut y gallwch chi dynnu’ch caniatâd yn ôl neu optio allan o rai achosion o ddefnyddio data (lle bo’n berthnasol).